Croeso i Ysgol Gymraeg Trefynwy. Agorwyd yr ysgol ym Mis Medi 2024 i 18 o blant Meithrin i Flwyddyn 2 yn dilyn yr alw am twf mewn addysg Gymraeg yn Sir Fynwy. Rydym wedi sefydlu yng nhannol gymuned Trefynwy ac yn rhannu safle gydag Ysgol Gynradd Overmonnow. Byddwn yn tyfu fel ysgol, wrth i’n plant tyfu.
Rydym yn derbyn plant codi tair ym Mis Ionawr ac eto ar ôl y Pasg. Mae ein plant Meithrin yn mynychu ysgol llawn amser. Mae gan ein plant mynediad i glwb brecwast a chlwb gwarchod diwedd y dydd ar safle’r ysgol.
Gweledigaeth ein hysgol ydy creu ethos ac awyrgylch ble mae croeso a chynhwysiad i bawb mewn amgylchedd Cymreig. Mae creu perthnasoedd positif gyda phlant yn allweddol er mwyn iddynt lwyddo a theimlo’n ddiogel. Annogwn ein disgyblion i ddatblygu annibynniaeth personol am ei hunain ac eraill gan gynnwys eu dysgu. Bydd ein cwricwlwm cynhwysol yn grymuso plant i ddatblygu sgiliau creadigol, a thanio’r chwilfrydedd at ddysgu.
Seiliwn ein gweledigaeth ar ein 3 gwerth alleddol:
Perthyn - Rydym yn perthyn i’r gymuned yma yn Nhrefynwy ac i gymuned ddiwylliannol ehangach Cymru.
Gofalu - Rydyn ni’n gofalu am ein hunain, ein gilydd, a'n hamgylchedd.
Ffynnu - Rydym yn ffynnu am ein bod yn barod i lwyddo.
Ymfalchïwn yng Nghymreictod a diwylliant ein hardal leol ac ymrwymwn i ennyn balchder yn yr iaith Gymraeg. Fel Ysgol Gymraeg pwysleisir meithrin gwybodaeth a deall o ddiwylliant Cymru a meistroli rhugled yn yr Iaith Gymraeg; mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.
Credwn hefyd mai trwy feithrin cydweithrediad agos a chysylltiad ystyrlon rhwng y cartref a’r ysgol y medrir gwneud y gorau i’n plant. Bydd yna gyfleoedd i chi rannu yn addysg eich plant a byddwn ninnau o hyd ar gael i siarad â chi am unrhyw agwedd o’u datblygiad. Mae’r bartneriaeth yma yn un holl bwysig ac wrth gydweithio gyda’n gilydd gallwn roi cymorth i bob plentyn wneud y gorau o’i allu.
Yn gynharach yn y flwyddyn, derbyniwn ni gwahoddiad gan Ysgol Gymraeg Gwynllyw i fod yn rhan o gyfres o fideo gyda holl ysgolion cynradd Cymraeg yn eu clwstwr i hyrwyddo addysg Gymraeg. Rydym yn falch o allu rhannu gyda chi un o'r fideos sy'n tynnu sylw at Ysgol Gymraeg Trefynwy, diolch i Mrs Alexander am gytuno i siarad â'r camerâu!
