Mae Ysgol Gymraeg Trefynwy yn croesawu disgyblion o oedran meithrin hyd at Flwyddyn 2. Wrth i'n disgyblion dyfu, felly hefyd y bydd yr ysgol, bob blwyddyn, hyd at Flwyddyn 6. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/2026, mae gan ddisgyblion Meithrin, gan gynnwys plant ‘Codi 3’ hawl i fynychu'n llawn amser, a byddant hefyd yn gallu cael cinio ysgol am ddim.
Mae ein dalgylch yn cwmpasu Trefynwy a'r trefi a'r pentrefi cyfagos, gan fod llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy mae ein dalgylch yn ehangach. Os oes gennych gwestiynau cysylltwch â'r Uned Mynediad i Ysgolion a Myfyrwyr ar 01633 644508 neu anfonwch e-bost at accesstolearning@monmouthshire.gov.uk.
Mae gan Gyngor Sir Fynwy system ymgeisio ar-lein ar gyfer lleoedd mewn ysgolion meithrin a chynradd. Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am le: www.monmouthshire.gov.uk
Os dewiswch symud eich plentyn/plant i Ysgol Gymraeg Trefynwy yn ystod y flwyddyn academaidd yna mae angen i chi gwblhau Cais Trosglwyddo Ysgol yn ystod y flwyddyn sydd ar gael trwy wefan y cyngor: monmouthshire.gov.uk
Mae gan bob disgybl, gan gynnwys ein disgyblion meithrin hawl i ginio ysgol am ddim, diolch i gynllun Cinio Ysgol Am Ddim Cyffredinol yng Nghymru. Mae'r ddewislen i'w gweld isod. Gofynnwn i bob teulu archebu cinio disgyblion ymlaen llaw gan ddefnyddio ParentPay, gweler y canllawiau isod am gyfarwyddiadau ar sut i archebu cinio.
Sut i archebu cinio ysgol ar ParentPay
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ginio ysgol yn cynnwys y fwydlen cyfredol ar wefan Cyngor Sir Fynwy; monmouthshire.gov.uk
Gall disgyblion gael mynediad i'r clwb brecwast ar y safle, a gynhelir gan Ysgol Gynradd Overmonnow o 8:10yb – 8:50yb bob dydd. Mae Clwb Brecwast yn costio £2 y disgybl y dydd cyn 8.30yb, nid oes cost ar ôl 8.3oyb.
Mae clwb gofal ar ôl ysgol hefyd tan 5:00yp (5.30yp trwy drefniant ymlaen llaw) o ddydd Llun i ddydd Iau i ddisgyblion o ddosbarth Meithrin ac i fyny. Mae cost o £11/£12 y sesiwn. Cynigir byrbryd iach ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau. Mae hwn yn cael ei redeg gan Celyn Childcare, y gellir cysylltu â nhw drwy e-bost celynchildcare@gmail.com
Tymor yr Hydref 2026
- Dechrau Tymor 01/09/2026
- Hanner Tymor Yn Cychwyn 26/10/2026
- Hanner Tymor Yn Gorffan 30/10/2026
- Diwedd Tymor 18/12/2026
Tymor y Gwanwyn 2027
- Dechrau Tymor 04/01/2027
- Hanner Tymor Yn Cychwyn 08/02/2027
- Hanner Tymor Yn Gorffan 12/02/2027
- Diwedd Tymor 19/03/2027
Tymor yr Haf 2027
- Dechrau Tymor 05/04/2027
- Hanner Tymor Yn Cychwyn 31/05/2027
- Hanner Tymor Yn Gorffan 04/06/2027
- Diwedd Tymor 20/07/2027
Saesneg yn unig...
In addition to this, school will close for six other days for In Service Training purposes (INSET days). You will be informed of these as soon as they are set. This calender meets with statutory regulations of 195 days, including 189 with pupils in attendance and six training days.
We kindly ask you to take any holidays during school holiday time to avoid any negative effect on your child’s learning.
